Creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned
Rydyn ni eisiau gwella hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned drwy wella mynediad at wasanaethau arbenigol yn agos at gartref. Byddwn ni hefyd yn gweithio i ddatblygu cymunedau cynhwysol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu gymryd rhan yn ddiogel mewn gweithgareddau.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella cysylltedd cymdeithasol ac annog perthnasoedd cadarnhaol rhwng cenedlaethau.
- Sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod rhywun yn gwrando arnynt wrth gael mynediad at wasanaethau, cymorth a gweithgareddau.
- Creu gweithgareddau cymunedol mwy hygyrch i bobl hŷn, a’r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol neu broblemau symudedd.
- Sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor am wasanaethau a chyfleoedd.