Gwella’r cynnig i bobl ifanc gael swyddi a sgiliau yn dilyn addysg ffurfiol
Hoffem ymgysylltu â phartneriaid i ddeall cynlluniau i wella rhagolygon swyddi a sgiliau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau perthnasol i ddeall rhwystrau a chyfleoedd.
Er bod hyn y tu allan i gylch gorchwyl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, drwy gysylltu â phartneriaid, ein gobaith yw gallu:
- Gwella opsiynau a hygyrchedd llwybrau i bobl dros 16 oed
- Sicrhau bod gan bobl ifanc y cytundebau priodol yn eu lle i osgoi dioddef camfanteisio
- Moderneiddio’r trefniadau rhanbarthol presennol ar gyfer derbyn cyngor gyrfaoedd