Sut mae prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu hariannu?
Ariennir prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc gan Lywodraeth Cymru. Cydlynir y cronfeydd hyn drwy’r Uned Gomisiynu Ranbarthol gyda phartneriaid ar draws iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol.