Darllen yr adroddiad
Gellir darllen adroddiad ‘Cylch Llawn Cyfathrebu ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu’ yma.
Lawrlwytho ymaGeiriau anodd a lluniau
Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf wedi datblygu rhestr o eiriau anodd yma.
Lawrlwytho ymaDefnyddir y term ‘anabledd dysgu’ i ddisgrifio nifer o gyflyrau gwahanol. Fe all pobl â’r un anabledd dysgu brofi’r cyflwr hwnnw mewn ffordd wahanol i’w gilydd.
Mae’n bwysig fod pobl ag anableddau dysgu’n teimlo fod rhywun wir yn gwrando ac yn cymryd diddordeb, a bod ganddyn nhw reolaeth a dewis dros eu bywydau’u hunain.
Yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu 2023 rydyn ni’n mynd i ddangos rhai o’r pethau gwych mae pobl ag anabledd dysgu’n ei wneud yn ein rhanbarth, gan dynnu sylw ar yr un pryd i rai o’r rhwystrau a’r heriau allweddol sy’n eu hwynebu o hyd
Chloe yw Cadeirydd ein Grŵp Anableddau Dysgu Rhanbarthol, gan gynghori ar flaenoriaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant i bobl ag anableddau dysgu ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.
Mae Chloe’n frwd o blaid hawliau pobl ag anableddau dysgu, ar ôl gwirfoddoli gyda’r elusennau Follow Your Dreams a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf am lawer o flynyddoedd.
Fel Cadeirydd, mae Chloe, sydd ag anableddau dysgu, yn sicrhau bod llais pobl ag anableddau dysgu wrth wraidd penderfyniadau am gyllid ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau.
Email UsClywed lleisiau a phrofiadau pobl ag anabledd dysgu
Sut allwn ni gyfathrebu’n effeithiol â phobl sy’n byw gydag anabledd dysgu?
Rydyn ni’n gwybod fod cyfathrebu’n gallu bod yn rhwystr i bobl ag anabledd dysgu.
I glywed mwy am hyn, fe ofynnon ni i Bobl yn Gyntaf Cwm Taf a phrosiect Mae Ein Llais yn Cyfri ymchwilio i ddewisiadau cyfathrebu pobl ag anabledd dysgu ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Comisiynwyd Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith tebyg gyda phobl ag anabledd dysgu ar draws Pen-y-bont hefyd.
Fel rhan o ymchwil Cwm Taf, cyflogwyd unigolyn ag anabledd dysgu fel hwylusydd prosiect i helpu i lywio’r prosiect ac ymgysylltu â chyfoedion.
Cymerodd 28 o bobl ag anabledd dysgu ran yn yr ymchwil.
Wrth gyd-gynllunio adroddiad yr ymchwil, roedd y bobl ag anabledd dysgu’n teimlo nad oedd modd dal yn llawn yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu am gyfathrebu mewn adroddiad ysgrifenedig, a gofynnon nhw am i ffilm gael ei chreu i helpu pobl eraill i ddeall eu canfyddiadau a’u hargymhellion:
Gellir darllen adroddiad ‘Cylch Llawn Cyfathrebu ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu’ yma.
Lawrlwytho ymaMae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf wedi datblygu rhestr o eiriau anodd yma.
Lawrlwytho ymaElusen yw Pobl yn Gyntaf Cwm Taf a gynhelir gan bobl ag anableddau dysgu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu sy’n byw yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Blaenau Gwent.
Darllen mwyMae Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn eiriol ar ran hawliau pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ardal Pen-y-bont.
Darllen mwyMae Drive yn darparu cymorth sy’n grymuso dewis, perthyn a byw’n annibynnol mewn cymunedau lleol.
Darllen mwyOs ydych chi’n byw yn RCT, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.
Darllen mwyOs ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.
Darllen mwyOs ydych chi’n byw ym Merthyr Tudful gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.
Darllen mwyMae Mencap Cymru’n darparu tai â chymorth, cefnogaeth yn y cartref, gofal yn y cartref, gwasanaethau seibiant a gwasanaethau gofal preswyl i oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu.
Darllen mwyMae gan Dewis Cymru ystod eang o wybodaeth.
Darllen mwyCymerwch ein harolwg yma.
Cliciwch ymaRydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.